PAM?



Byddai ennill profiad o gydweithio gyda Golwg360 yn gyfle GWYCH i chi mewn nifer o ffyrdd!

Dyma rai rhesymau:


  1. Byddwch yn derbyn HYFFORDDIANT wrth arbenigwyr yn y maes! Byddai'r SGILIAU yma gyda chi am byth!
  2. Byddwch yn derbyn PROFIADAU UNIGRYW - ni fydd y cyfle hwn yn dod i chi unrhywbryd eto yn eich bywyd!
  3. Bydd y profiadau yn rhai BYTHGOFIADWY!
  4. Bydd yr holl hyfforddiant, sgiliau a phrofiadau yn edrych yn WYCH ar eich CV! Golyga hyn gwell cyfle i ennill swydd (neu well cyfle i fynd i brifysgol) wedi i chi adael yr ysgol!
  5. Byddwch yn dysgu i weithio mewn tim, ac yn dod i adnabod llawer o bobl newydd! Bydd eich sgiliau cyfathrebu yn datblygu'n sylweddol!
  6. Byddwch yn MWYNHAU!
  7. Bydd yr hyn yr ydych yn cyfrannu yn mynd ar wasanaeth Golwg360...i Gymru...ac i'r holl fyd! Bydd gennych  GYNULLEIDFA FYD-EANG  i'ch deunydd (boed yn waith ysgrifenedig, yn glipiau fideo, yn lluniau llonydd, neu'n glipiau sain)
  8. Byddwch yn creu OL-TROED DIGIDOL cadarnhaol iawn i'ch hun! Dychmygwch - byddai pobl yn medru rhoi eich enw i mewn i "Google Search" a chanfod llawer o bethau gwych amdanoch! Dychmygwch pan fyddwch yn chwilio am swydd, neu yn ceisio am le mewn prifysgol - bydd y bobl hynny sy'n gwneud y penderfyniadau pwysig yn medru dod o hyd i bethau arbennig amdanoch ar-lein! Llawer gwell na gweld eich tudalen 'Facebook' neu'ch cyfrif ar 'Twitter' yn unig!
  9. Byddwch hefyd yn gwneud CYSYLLTIADAU GWYCH gyda y bobl hynny y byddwch yn cydweithio gyda: boed yn Golwg360, yn bobl enwog neu yn bobl o'r gymuned leol (gan gynnwys cyflogwyr!


No comments:

Post a Comment