5. Casglwr Gwybodaeth


Mae angen tîm o bobl egnïol a threfnus i gasglu gwybodaeth amrywiol o faes yr Eisteddfod i’w cyhoeddi ar wasanaeth Golwg360.com.

Yn ogystal â chyhoeddi newyddion, erthyglau a chynnwys amlgyfrwng, mae disgwyl i wasanaeth fel Golwg360 fod yn ffynhonnell gwybodaeth yn ystod digwyddiadau fel Eisteddfod yr Urdd.

Gwybodaeth amlwg a phwysig iawn o faes yr Eisteddfod yw canlyniadau cystadlaethau, ac un o brif ddyletswyddau’r rôl yma fydd casglu’r holl ganlyniadau swyddogol i’w cyhoeddi cyn gynted â phosib ar Golwg360.

Mae’n bosib y bydd gofyn i chi gasglu gwybodaeth arall berthnasol e.e. gwybodaeth traffig.

Nid yw sgiliau ieithyddol mor bwysig ar gyfer y rôl hon ag yr ydyw ar gyfer rôl ohebu, ond mae’n hollbwysig i unigolion fod yn drefnus a sicrhau cywirdeb o ran y wybodaeth. 


No comments:

Post a Comment