1. Gohebydd/Newyddiadurwr


Rydym yn awyddus i glywed gan unigolion sydd â sgiliau ysgrifennu da i gyfrannu erthyglau sy’n ymwneud ag Eisteddfod yr Urdd eleni.

Mae sgiliau ysgrifennu gwych yn fanteisiol, ond yn fwy na dim mae angen brwdfrydedd a gallu i adnabod stori dda.

Rydym yn awyddus i unigolion fod yn dechrau ar y gwaith cyn wythnos yr Eisteddfod, gan ddarparu erthyglau newyddion a nodwedd ynglŷn ag ardal yr eisteddfod eleni. Efallai y byddwch yn paratoi erthyglau am baratoadau’r Eisteddfod, neu am rai o nodweddion a chymeriadau diddorol yr ardal i’r rhai
hynny sy’n bwriadu ymweld â’r Eisteddfod. 

No comments:

Post a Comment