Mae Golwg360.com wedi dewis cydweithio gydag Ysgol y Preseli ar gyfer Eisteddfod yr Urdd, 2013!
Rydym yn chwilio am dimau o ddisgyblion awyddus, gweithgar ar gyfer y 5 rôl cyffrous isod!
1. Gohebwyr / Newyddiadurwyr
Pwrpas y rôl: Ysgrifennu erthyglau ar gyfer blog CENEDLAETHOL Golwg 360 (yn arwain i fyny at yr Eisteddfod, ac yn ystod wythnos yr Eisteddfod)
Sgiliau hanfodol: Sgiliau ysgrifennu gwych yn fanteisiol, ond yn fwy na dim mae angen brwdfrydedd a gallu i adnabod stori dda.
2. Blogwyr

Pwrpas y rôl: Cyfrannu eich profiadau difyr at flog Golwg360 (e.e. drwy glipiau ffilm, sain neu ffotograffiau)
Sgiliau hanfodol: Mae'n hanfodol eich bod chi'n cymryd rhan yn y paratoadau i fyny at, ac yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Efallai eich bod yn cymryd rhan yn un o'r sioeau, neu'n cystadlu, neu'n rhan o bwyllgor trefnu? Os felly, mae Golwg360 am glywed am eich profiadau!
3. Casglwyr Cynnwys Amlgyfrwng
Pwrpas y rôl: Casglu cynnwys (lluniau, clipiau ffilm, clipiau sain, recordio cyfweliadau) ar faes yr Eisteddfod er mwyn eu defnyddio ar wasanaeth Golwg360.com.
Sgiliau hanfodol: Does dim rhaid bod â phrofiad o ddefnyddio camera neu offer recordio, ond mae profiad o fantais. Yr hyn sy’n bwysicach ydy bod gennych ddiddordeb yn y maes ac awydd i ddysgu - bydd modd i ni ddarparu peth hyfforddiant cyn yr Eisteddfod.
4. Gohebwyr maes
Pwrpas y rôl: Chwilio am straeon difyr a fydd o ddiddordeb i ddarllenwyr Golwg360, gan gynnwys cyfweld â phobl amrywiol.
Sgiliau hanfodol: Person sydd â hyder a chymeriad cryf (i holi a gofyn cwestiynau). Bydd angen iaith lafar dda a sgiliau ymchwil da.
5. Casglwyr Gwybodaeth
Pwrpas y rôl: Casglu gwybodaeth amrywiol o faes yr Eisteddfod i’w cyhoeddi ar wasanaeth Golwg360.com e.e. canlyniadau.
Sgiliau hanfodol: Nid yw sgiliau ieithyddol mor bwysig ar gyfer y rôl hon ag yr ydyw ar gyfer rôl ohebu, ond mae’n hollbwysig i unigolion fod yn drefnus a sicrhau cywirdeb o ran y wybodaeth.


.png)
